YR APÊL AT FELIX: AGWEDDAU AR HANESYDDIAETH R. T. JENKINS (1881–1969)

2021 ◽  
Vol 30 (4) ◽  
pp. 609-635
Author(s):  
T. Robin Chapman

Edrychir yma ar y defnydd a wnaeth R. T. Jenkins o ffilm gartwŵn i esbonio agwedd briodol y presennol tuag at y gorffennol yn ei ysgrif 'Yr apêl at hanes' yn 1924, gan ddadlau bod y dewis yn codi cwestiynau ehangach am egwyddorion hanesyddiaeth yr awdur. Drwy ystyried pwyslais Jenkins ar gyfyngiadau hanes a'r technegau a ddefnyddiodd yn ei waith ehangach, ceisir dangos bod y lle canolog a roddai i'r paradocsaidd a'r gwrthreddfol a'i amharodrwydd i gynysgaeddu disgyblaeth hanes ag unrhyw werth gwrthrychol yn tarddu o ddau amcan. Y naill oedd ei ddymuniad i weld proffesiynoli disgyblaeth hanes (a hanes Cymru yn fwyaf penodol) heb arddel unrhyw fydolwg 'mecanyddol' am y natur ddynol. Y llall oedd ei bryder am y defnydd ideolegol a wneid o'r gorffennol yn enw awdurdod gwleidyddol, crefyddol a diwylliannol.

Sign in / Sign up

Export Citation Format

Share Document