Cylchgrawn Addysg Cymru / Wales Journal of Education
Latest Publications


TOTAL DOCUMENTS

112
(FIVE YEARS 37)

H-INDEX

3
(FIVE YEARS 0)

Published By University Of Wales Press/Gwasg Prifysgol Cymru

2059-3716, 2059-3708

Author(s):  
Gary Beauchamp ◽  
Tom Crick ◽  
Enlli Thomas

Author(s):  
Alyson Lewis ◽  
Amanda Thomas

Mae dysgu a datblygiad proffesiynol yn y maes addysg a gofal plentyndod cynnar (ECEC) yn cael ei flaenoriaethu’n rhyngwladol. Mae’r flaenoriaeth hon yn bwysig, yn enwedig pan mae disgwyl i ymarferwyr yng Nghymru weithredu newidiadau uchelgeisiol i’r cwricwlwm. Mae’r papur hwn yn archwilio canfyddiadau dwy astudiaeth PhD, un yn archwilio gwybodaeth a dealltwriaeth ymarferwyr o sgemâu ac un arall yn archwilio lles. Canfu dair nodwedd gyffredin: yn gyntaf, dealltwriaeth gyfyngedig o sgemâu a lles ymhlith rhai ymarferwyr sy’n gweithio gyda phlant ifanc; yn ail, dealltwriaeth gyfyngedig o sut i adnabod a chefnogi sgemâu a hybu lles mewn ymarfer yn yr ystafell ddosbarth; ac yn drydydd, diffyg eglurder yng nghanllawiau cwricwlwm Llywodraeth Cymru ynghylch sgemâu a lles. Mae’r erthygl hon yn trafod goblygiadau’r nodweddion cyffredin hyn i blant ac ymarfer, gweithredu’r cwricwlwm ac ymchwil. Ymhellach, mae’n awgrymu pe bai gan ymarferwyr ddealltwriaeth gadarn o sgemâu a lles, gallai hyn eu helpu i ailfeddwl a thrawsnewid eu hymarfer. Mae’r papur hwn yn dadlau dros bwysigrwydd datblygiad proffesiynol cydweithredol a myfyrio beirniadol ar gyfer ymarferwyr, llunwyr polisi ac ymchwilwyr yng ngoleuni’r newid yn y cwricwlwm.


Author(s):  
Delyth Jones

Mae’r erthygl hon yn trafod dyfodol addysgu a dysgu ieithoedd rhyngwladol yn ysgolion Cymru yng ngoleuni’r newidiadau ddaw yn sgil cwricwlwm 2022. Mae’n hysbys ddigon fod y niferoedd sy’n astudio ieithoedd tramor fel pwnc TGAU a Lefel A wedi gostwng yn sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf. Bwriad strategaeth ‘Dyfodol Byd-eang’ (2015) y llywodraeth oedd cynyddu’r niferoedd hyn. Gyda’r strategaeth bum mlynedd hon ar fin dod i ben a chyda pharatoadau cwricwlwm 2022 yn mynd rhagddynt, mae’n amserol holi a ellir disgwyl gweld cynnydd yn nifer y disgyblion sy’n dewis ieithoedd megis Ffrangeg, Sbaeneg ac Almaeneg fel pwnc TGAU yn ystod y blynyddoedd nesaf. Er mwyn archwilo’r cwestiwn hwn, edrychir ar ymchwil i addysgu a dysgu ieithoedd tramor mewn ysgolion cynradd yn Lloegr a’r Alban a’r heriau ymarferol ddaeth yn sgil hyn, (Finch et al, 2018, Holmes a Myles, 2019, Giraud-Johnstone, 2017). Yn ail, trafodir rôl cymhelliant wrth ddysgu iaith dramor a dadleuir bod cyfyngiadau’r blychau opsiwn ym mlynyddoedd 8 neu 9 yn rhwystro rhai disgyblion rhag dewis iaith fodern fel pwnc TGAU, (Estyn, 2016, Abrahams, 2018). Yn drydydd, manylir ar y farn gyffredin ymhlith disgyblion bod dysgu iaith dramor yn anodd ac yn heriol (Coleman et al, 2007, Coffey, 2018, Rodeiro, 2017, Cyngor Prydeinig, 2019). I gloi, cynigir rhai argymhellion ar sut i sicrhau llwyddiant elfen ieithoedd rhyngwladol y cwricwlwm newydd er mwyn ceisio mynd i’r afael â’r prinder presennol o ddisgyblion sy’n dewis y pwnc ac athrawon i addysgu’r pwnc.


Author(s):  
Helena O'Boyle ◽  
Marguerite Hoerger

Prin yw’r canllawiau i athrawon ynglyˆn â’r ffordd orau o addysgu plant ifanc mewn ysgolion AAA yng Nghymru. Mae ymchwil ddiweddar wedi dangos bod addysgu seiliedig ar Ddadansoddi Ymddygiad Cymhwysol (ABA) yn fodel effeithiol ar gyfer y Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 1 mewn ysgolion anghenion arbennig a gynhelir (Foran et al., 2015; Pitts, Gent a Hoerger, 2019). Aeth yr astudiaeth gyfredol ati i efelychu’r model ac roedd yn cynnwys mesurau’r cwricwlwm (Graddfeydd P) a ddefnyddir yn aml gan addysgwyr a’r asesiadau norm-gyfeiriol ac sydd wedi’u dilysu (MSEL a VABSII) a ddefnyddir yn gyffredin gan ymchwilwyr. Ar ôl gweithredu’r model ABA yn yr ystafell ddosbarth, gwnaeth cyfranogwyr enillion sylweddol ar fesurau’r cwricwlwm a’r asesiadau norm-gyfeiriol. Roedd y data o bob asesiad yn dangos enillion arwyddocaol yn ystadegol gyda meintiau effaith canolig i fawr. Mae’r astudiaeth hon yn dangos sut y gall athrawon ddefnyddio strategaethau dadansoddi ymddygiad i baratoi myfyrwyr gyda sgiliau parodrwydd ar gyfer dysgu sgiliau sy’n hanfodol ar gyfer cael mynediad at y cwricwlwm. Mae’r astudiaeth hon yn amlinellu sut y gall technegau seiliedig ar egwyddorion ABA ategu’r ddarpariaeth addysgol mewn ysgolion AAA a gynhelir yng Nghymru.


2020 ◽  
Vol 22 (2) ◽  
pp. 26-52
Author(s):  
Sally Bethell ◽  
Anna S. Bryant ◽  
Steve. M Cooper ◽  
Lowri C. Edwards ◽  
Kieran Hodgkin

Mae'r papur hwn yn adolygu'n systematig y llenyddiaeth ymchwil gyfoes sy'n ymwneud â mentoriaid addysg gorfforol (AG) ym maes addysg gychwynnol i athrawon (AGA). Gan ddefnyddio methodolegau 'Eitemau Adrodd a Ffefrir ar gyfer Adolygiadau Systematig a Phrotocolau Meta- Ddadansoddi' (PRISMA- P), dadansoddwyd erthyglau yn ansoddol gan ddefnyddio dadansoddiad thematig diddwythol mewn perthynas â chynnwys yn ymwneud â thair agwedd graidd ar fentora addysg gorfforol: (i) terminoleg (ii) priodoleddau a (iii) dysgu proffesiynol. Roedd y canfyddiadau'n nodi amrywiadau yn y derminoleg a'r disgwyliadau sy'n gysylltiedig â rôl y mentor addysg gorfforol. Roedd nifer sylweddol o astudiaethau ymchwil a nodwyd yn y chwiliad llenyddiaeth yn canolbwyntio ar ddatblygu prosesau mentora trwy gydweithredu a dulliau cyd- ymholi. Fodd bynnag, canfu'r adolygiad o lenyddiaeth ddiffyg cyfeiriadau penodol at anghenion dysgu proffesiynol a chyfleoedd ar gyfer mentoriaid addysg gorfforol. Mae'r adolygiad wedi arwain at chwe argymhelliad allweddol, a dau ohonynt yw: (i) dylid dewis mentoriaid addysg gorfforol gan eu bod yn meddu ar briodoleddau priodol i fod yn effeithiol yn y rôl a, (ii) dylid sicrhau bod cyfleoedd dysgu proffesiynol ar gael i alluogi mentoriaid addysg gorfforol i gydnabod cwmpas y rôl a meithrin eu gallu i ddefnyddio dulliau cydweithredol a seiliedig ar ymholi i gefnogi datblygiad athrawon dan hyfforddiant.


2020 ◽  
Vol 22 (2) ◽  
pp. 69-100
Author(s):  
Kaydee Owen ◽  
Richard C. Watkins ◽  
Michael Beverley ◽  
J. Carl Hughes

Mae unedau cyfeirio disgyblion (UCD) yng Nghymru yn cynnig lle i blant sy'n arddangos amrywiaeth o anawsterau na ellir eu rheoli o fewn lleoliad prif ffrwd. Nid yw llawer o'r plant sy'n mynychu UCD yng Nghymru yn datblygu'r sgiliau rhifedd sydd eu hangen arnynt i gefnogi eu dysgu ar draws y cwricwlwm. Er mwyn ceisio addysgu ac asesu sgiliau adio, asesodd yr awduron effeithiau defnyddio cyfuniad o gyfarwyddyd uniongyrchol (CU) ac addysgu manwl (AM) mewn UCD. Dros chwe wythnos ysgol, buom yn gweithio gyda phump o blant (rhwng 7 a 10 oed) ar sail 1:1 drwy'r cwricwlwm adio Corrective Mathematics (Engelmann a Carnine, 2005). Yn dilyn pob gwers, cwblhaodd y plant asesiad rhuglder unigol, a oedd wedi'i deilwra i'w hanghenion gan ddefnyddio dulliau AM. Aethom ati i gasglu data llinell sylfaen a dilynol gan ddefnyddio'r Prawf Gallu Mathemategol Cynnar (TEMA-3), y Prawf Cyflawniad Amrediad Eang (WRAT-4) a'r prawf lleoliad Corrective Mathematics. Cyfwelwyd â'r plant ar ôl yr ymyrraeth hefyd er mwyn cael syniad o'u profiad o'r dull. Mae'r canlyniadau'n darparu tystiolaeth i gefnogi'r defnydd o ddull rhuglder cyfarwyddiadol mewn lleoliad UCD i helpu plant i ddatblygu sgiliau mathemateg cynnar, yn enwedig ar gyfer plant oedd yn ymgysylltu â'r sesiynau'n rheolaidd. Oherwydd maint bach y sampl, mae canlyniadau'r astudiaeth hon yn gyfyngedig o ran y gallu i'w cyffredinoli ond gallant helpu i lywio ymchwil yn y dyfodol sy'n ymchwilio i strategaethau effeithiol ar gyfer addysgu mathemateg mewn UCD.


2020 ◽  
Vol 22 (2) ◽  
pp. 53-68
Author(s):  
Geraint Johnes

Defnyddir dull meta-derfyn i werthuso effeithlonrwydd y modd y caiff mewnbynnau i'r broses addysg eu trosi'n allbynnau, gan ddefnyddio data ar gyfer ysgolion uwchradd yng Nghymru a gafwyd o astudiaeth PISA 2015. Mae effeithlonrwydd ysgolion lle mae'r addysgu'n cael ei wneud drwy gyfrwng y Saesneg yn cael ei gymharu ag effeithlonrwydd ysgolion cyfrwng Cymraeg. Ar y rhan fwyaf o fesurau, mae mewnbynnau i'r olaf yn gymharol uchel, gan effeithio ar y lefelau effeithlonrwydd a welwyd. Er mwyn gwella sgorau PISA yng Nghymru, mae'n debygol y bydd angen gwella perfformiad ysgolion cyfrwng Cymraeg, ond mae angen rhoi cydnabyddiaeth bendant i unrhyw gyfaddawdu rhwng gwelliant o'r fath a gwireddu nodau polisi sy'n ehangach na'r rhai a werthusir yn PISA.


2020 ◽  
Vol 22 (2) ◽  
pp. 1-25
Author(s):  
Ashley Beard

Diben y gwaith ymchwil hwn oedd ymchwilio i nodweddion gwersi a chysyniadaeth yr athrawon am y rhaglen Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg, Cyfnodau Allweddol 2 a 3, i weld a oeddent yn cefnogi addysgeg sydd yn anelu at ddatblygu hyfedredd cyfathrebol y disgyblion. Ystyrir hyn yng ngoleuni'r cwricwlwm newydd i Gymru a gaiff ei weithredu'n llawn erbyn 2022, a'i bwyslais ar ddysgu Cymraeg yn bennaf fel ffordd o gyfathrebu mewn ysgolion cyfrwng Saesneg, o fewn cyd-destun gweledigaeth ieithyddol Llywodraeth Cymru i sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae'r erthygl yn codi cwestiwn am y graddau y mae'r ddarpariaeth Gymraeg bresennol mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yn addas i gynhyrchu siaradwyr yr iaith.


2020 ◽  
Vol 22 (1) ◽  
pp. 38-59
Author(s):  
John Furlong

The focus of this special issue is the changes to Initial Teacher Education (ITE) that have been instituted in Wales over the last two years. At the heart of the new approach is the insistence that in the future all programmes of ITE should be planned, led and delivered not by universities alone, but by universities working in close collaboration with a number of partner schools. But what is the justification for these radical changes? Why is a collaborative approach between universities and schools needed? This paper, which takes the form of a personal literature review, sets out the research evidence on which I drew in contributing the reform process. It considers evidence on three issues: the role of schools; the role of universities; and the ways in which they can effectively work together.


Sign in / Sign up

Export Citation Format

Share Document